Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
16 Ebrill 2018
SL(5)200 – Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2018
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006 (“Rheoliadau 2006”).
Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 4 o Reoliadau 2006 (cyfrifo ffioedd) drwy gynyddu’r ffi gymwysadwy sydd i’w thalu am gwrs o driniaeth Band 2 a Band 3.
Rhiant-Ddeddf: Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006
Fe’u gwnaed ar: 01 Mawrth 2018
Fe’u gosodwyd ar: 07 Mawrth 2018
Yn dod i rym ar: 01 Ebrill 2018